Cyhoeddi manylion cynhadledd FOCUS Wales

Mae gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam wedi cyhoeddi manylion ‘cynhadledd’ yr ŵyl eleni. Mae’r ŵyl ‘showcase’ arbennig yn digwydd am y degfed tro yn 2021, a hynny mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam ar benwythnos 7-9 Hydref.

Yn ogystal â llwyth o gerddoriaeth fyw, mae’r ŵyl yn llwyfannu nifer o sgyrsiau diwydiant a’r prif siaradwyr gwadd yn rhain eleni ydy Catrin Finch a Don Letts. Mae Catrin wrth gwrs yn delynores a chantores amlwg sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol.

Fe fydd yn sgwrsio gyda cholofnydd cerddoriaeth The Guardian, Jude Rogers ar ddydd Gwener 8 Hydref yn lleoliad Tŷ Pawb.

Mae Don Letts wedi hen sefydlu ei hun yn y byd ffilm a cherddoriaeth ers degawdau gan gynhyrchu llwyth o waith o’r 1970au trwodd i’r mileniwm newydd. Fe fydd Letts yn sgwrsio gyda’r cerddor, asiant a hyrwyddwr, Tumi Williams ar ddydd Sadwrn 9 Hydref, hefyd yn Tŷ Pawb.

Mae arlwy cynhadledd yr ŵyl hefyd yn cynnwys y siaradwyr canlynol: Henca Maduro (New Skool Rules), Achal Dhillon (Killing Moon), Anika Mottershaw (Bella Union), Bev Burton (Killer B), Andrew Ogun (Cyngor Celfyddydau Cymru), Shao Dow, Emma Zillmann (From The Fields), Rob McGee (FMLY Agency), Martin Elbourne (Glastonbury), Aly Gilani (Bandcamp), Julie Weir (Sony Music), Jessie Atkinson (Gigwise), Allison Shaw (Manic Monkee), Michelle Escoffery (Llywydd Cyngor Aelodaeth y PRS), a Davy Wales (PPL).