Cyhoeddi manylion Gŵyl Newydd 2021

Mae trefnwyr gŵyl gelfyddydol Gymraeg dinas Casnewydd, Gŵyl Newydd, wedi cyhoeddi manylion trefniadau’r ŵyl eleni.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, oherwydd y pandemig, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn rhithiol unwaith eto yn 2021 a hynny ar 25 Medi.

Er hynny, bydd yr arlwy’n cael ei ffrydio mewn modd unigryw o bump o leoliadau mwyaf eiconig ardal Casnewydd sef Canolfan Gelfyddydol Glan yr Afon, Le Pub, Diverse Vinyl, Amffitheatr Caerllion a’r Bont Gludo.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio o’r ŵyl mae N’famady Kouyaté, Eädyth, Mali Haf, Lily Beau ac Los Blancos.

Fel rhan rhan o Ŵyl Newydd 2021 hefyd, bydd cyfres o eitemau i blant a sgyrsiau difyr. Mae rhain yn cynnwys  Arddangosfa Rithiol wedi’i churadu gan Rhianwen Williams; stori arbennig i blant (Cant a Mil o Freuddwydion); animeiddiad sy’n cyflwyno ymadroddion yr iaith Arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg (S_M_E_I); sesiwn ioga (S A I B); sgwrs rhwng 4 o 4 ban y byd (Dysgu Cymraeg), yn ogystal â phodlediad arbennig gan Sôn am Sîn.

Dywed y trefnwyr eu bod hefyd yn cefnogi ambell ddigwyddiad a drefnir gan eu phartneriaid dros y dyddiau’n arwain at y brif ŵyl rhwng 20-24 Medi.

Dyma’r pedwerydd tro i’r ŵyl gael ei chynnal, a’r ail waith i hynny ddigwydd yn rhithiol.