Cyhoeddi manylion tocynnau Maes B 2022

Wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol gadarnhau eu bod am fwrw ymlaen â threfniadau i gynnal  yr ŵyl yn Nhregaron fis Awst nesaf, maent bellach wedi cyhoeddi bod tocynnau Maes B 2022 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion nawr ar werth.

Yn ôl trefnwyr Maes B, maent eisoes wedi bod wrthi’n gweithio ar y lein-yp o artistiaid, bandiau a DJs ar gyfer gŵyl ffrinj y Brifwyl fis Awst. 

Maent hefyd yn addo bydd Maes B 2022 yn fwy ac yn well nag erioed gyda llwyfannau newydd, ardaloedd gwahanol a llond cae o bobl yn mwynhau’r arlwy o gerddoriaeth.=

“Mae’n braf cael cyhoeddi bod tocynnau Maes B 2022 nawr ar werth ar ôl dwy flynedd o beidio gallu cynnal yr ŵyl” meddai Guto Brychan, trefnydd Maes B. 

“Dyma gyfle i ni allu mwynhau rhai o enwau mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael croesawu cynulleidfa newydd, a’r rhai sydd wedi methu’r ŵyl, i Dregaron flwyddyn nesaf.”

Mae’r tocynnau ar werth ar wefan Maes B ers o 10:00 fore dydd Mercher diwethaf, 1 Rhagfyr. 

Mae tocynnau bargen gynnar yr ŵyl bellach wedi gwerthu allan, ac felly mae’r don gyntaf o docynnau nawr ar gael, gyda dwy don arall yn dilyn  a’r pris yn cynyddu rhywfaint pob tro.

Ton Gyntaf — £90 

Ail Don — £100 

Ton Olaf — £120 

Gwefan Maes B: https://maesb.com