Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer o recordiau hir sydd â chyfle o gipio teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ eleni.
Cyhoeddwyd y rhestr ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stephens nos Iau diwethaf, ac mae’n cynnwys deg o albyms Cymraeg o genre’s amrywiol sydd wedi’u rhyddhau dros y cyfnod 31 Mai 2020 hyd ddiwedd Mai 2021.
Yn ôl y Steddfod, bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Er gwaetha’ heriau’r flwyddyn ddiwethaf i gerddorion, mae llwyth o gynnyrch da wedi ymddangos ac mae’n deg dweud bod hynny’n cael ei adlewyrchu ar y rhestr.
Panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth sy’n gyfrifol am ddewis y rhestr, ac mae’r panel eleni’n cynnwys Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen 2021, a gynhelir o 31 Gorffennaf – 7 Awst.
Enillydd cyntaf teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn oedd Y Bardd Anfarwol gan The Gentle Good yn 2014. Ers hynny mae Gwenno, Sŵnami, Bendith, Mellt ac Ani Glass wedi ennill y wobr.
Dyma’r 10 albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr eleni:
- Carw – Maske
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Mas
- Cwtsh – Gyda’n Gilydd
- Datblygu – Cwm Gwagle
- Elfed Saunders Jones – Gadewaist
- Jac Da Trippa – Kim Chong Hon
- Mared – Y Drefn
- Mr – Feiral
- Mr Phormula – Tiwns
- Tomos Williams – Cwmwl Tystion
Bydd rhagor o wybodaeth am y wobr yn cael ei gyhoeddi maes o law dros yr wythnosau nesaf.