Cyhoeddi rhestrau 3 Uchaf cyntaf Gwobrau’r Selar

Heno (Mawrth 2 Chwefror) cyhoeddwyd rhestrau 3 Uchaf tri categori cyntaf Gwobrau’r Selar eleni ar raglen BBC Radio Cymru  Sian Eleri.

Y tri categori sydd wedi eu cyhoeddi ydy ‘Gwaith Celf Gorau’, a noddir gan wasg Y Lolfa; ‘Artist Unigol Gorau’; a ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a noddir gan Gorwelion.

Yn ôl yr arfer ,chi, y darllenwyr sydd wedi bod yn pleidleisio dros enillwyr Gwobrau’r Selar eleni, a dyma’r tri sydd wedi dod i frig y categorïau yma:

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

Cofi 19

3 – Elis Derby

Preseb o Ias – Breichiau Hir

 

Artist Unigol 

Elis Derby

Mared

Ani Glas

 

Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion)

Mêl

Y Dail

Malan

 

Bydd rhestrau 3 Uchaf tri chategori arall yn cael eu cyhoeddi ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos fory, ynghyd â thri arall ar raglen Huw Stephens nos Iau.

Yna, bydd wythnos nesaf, 8-12 Chwefror, yn wythnos ddathlu Gwobrau’r Selar ar Radio Cymru gyda’r enillwyr i gyd yn cael eu datgelu ar raglenni amrywiol yr orsaf yn ystod yr wythnos. Cofiwch wrando!