Newyddion da o lawenydd mawr, mae rhifyn newydd sbon danlli o gylchgrawn Y Selar wedi mynd i’r wasg!
Mae modd i chi ddarllen y rhifyn newydd yn ddigidol nawr, a bydd y fersiwn print yn cyrraedd y mannau arferol yn fuan iawn!
Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf yn ddiweddar, Pys Melyn sydd ar glawr y rhifyn newydd ac mae cyfweliad gyda’r grŵp seicadelig o Lŷn yn y rhifyn.
Hefyd rhwng y cloriau lliwgar mae erthyglau arbennig am Y Cledrau, BOI, Ciwb, Shamoniks a llawer mwy.
Mae rhifyn yma hefyd yn cynnwys colofnau difyr gan Kate Woodward a Hywel Pitts, ac wrth gwrs mae ein cyfranwyr yn adolygu llwyth o gynnyrch sydd wedi’i ryddhau’n ddiweddar.
Rydym yn falch iawn hefyd bod yr artist talentog Sion Tomos Owen wedi creu darluniad gwych o’r Cledrau i gydfynd â’r rhifyn – bydd copi print nifer cyfyngedig ar y ffordd i holl aelodau premiwm Clwb Selar (os nad ydych yn aelod eto, siapwch hi!)
Neis.