Cyhoeddi Taith ‘Tê yn y Grug’ Al Lewis

Mae Al Lewis wedi cyhoeddi manylion taith newydd ar gyfer ei sioe ‘Tê yn y Grug’ fydd yn digwydd yn 2022. 

Perfformiwyd y sioe Tê yn y Grug gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn haf 2019 a’r bwriad oedd mynd â hi ar daith yng ngwanwyn 2020. Yn anffodus bu’n rhaid gohirio’r daith bryd hynny oherwydd y clo mawr, er i Al lwyddo i ryddhau’r albwm o ganeuon y sioe ychydig cyn hynny. 

Nawr mae trefnwyr y daith, Clwb Ifor Bach, wedi cyhoeddi bydd y sioe yn ymweld â phedwar lleoliad yng Nghymru yn ystod gwanwyn 2022. 

“Dwi mor falch o fedru cyhoeddi y daith Te yn y Grug 2022” meddai Al Lewis wrth ryddhau’r newyddion. 

“Fel cyn nifer o gerddorion yng Nghymru a thu hwnt, bu rhaid i mi ohirio rhan o’r daith wreiddiol a gychwynwyd yn misoedd cynnar 2020.

“Dwi wir yn edrych mlaen i ail gydio yn y deunydd yma o’r sioe neshi sgwennu ar gyfer Eisteddfod Llanrwst gyda Cefin Roberts a Karen Owen, ac yn enwedig i gyd-weithio unwaith eto efo rhai o gôrau orau Cymru!

“Felly peidiwch a methu allan tro yma, dewch yn llu!”

Mae’r albwm Tê yn y Grug yn seiliedig ar y gyfrol o’r un enw sef y gyfres o straeon byr gan Dr Kate Roberts. 

Mae’r caneuon yn rhoi llais i fywydau trigolion pentref bach yng nghymuned cloddio llechi yn y Gogledd Orllewin. 

Ymhob un sioe, bydd côr lleol yn ymuno â’r perfformiad ac yn canu gydag Al Lewis. 

Bydd y daith yn ymweld â phedair canolfan i gyd a bydd Mared Williams yn ymuno â’r sioe fel cefnogaeth yn Galeri, Caernarfon a Gwenno Morgan yn ymuno â’r perfformiadau yn Theatr Mwldan, The Gate a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. 

Manylion dyddiadau llawn y daith:

30/04/2022 – The Gate, Caerdydd (Côr: Côrdydd / Cefnogaeth: Gwenno Morgan) 

06/05/2022 – Theatr Mwldan, Aberteifi (Côr: Côr Cywair, Cefnogaeth: Gwenno Morgan)

07/05/2022 – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Côr: Côr ABC, Cefnogaeth: Gwenno Morgan)

13/05/2022 – Galeri, Caernarfon (Côr: Côr Dre, Cefnogaeth: Mared Williams)