‘Cymru Ni’ – trac newydd Izzy ac Eädy

Ar ôl cydweithio’n llwyddiannus yn ystod 2020, mae Izzy Rabey ac Eädyth yn ôl gyda sengl newydd o’r enw ‘Cymru Ni’. 

Bu i’r ddwy gydweithio gyntaf i ryddhau’r EP ‘Mas o Ma’ fis Hydref diwethaf, cyn cyhoeddi sengl ar y cyd o’r enw ‘Infinite Beaty’ ym mis Rhagfyr 2020

Mae Eädyth yn gyfarwydd iawn bellach am ei cherddoriaeth soul electronig blaengar ac wedi bod yn cydweithio gyda nifer o artistiaid eraill ar brosiectau amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf.

Efallai bod Izzy yn enw ychydig yn llai cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ond mae’n rapiwr dwyieithog a ddaw’n wreiddiol o Fachynlleth sydd wedi dechrau gwneud ei marc. Mae Izzy hefyd yn gyfarwyddwr theatr ac ymarferwraig theatr syn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain.

Cymryd cyfrifoldeb

Eädyth sy’n bennaf gyfrifol am gerddoriaeth ‘Cymru Ni’, ac Izzy am y geiriau, er bod Eädyth yn gyfrifol am eiriau’r intro lle mae hi’n canu. 

Mae’r sengl newydd yn drac crafog sy’n siŵr o dynnu blewyn o drwyn ambell un, fel yr eglura Izzy. 

“Mae’r gân ambwyti’r bobl a sefydliadau Cymraeg sydd ddim fel arfer yn cael eu canoli o ran cynrychioli diwylliant Cymraeg” eglura’r rapiwr. 

“Odd e’ hefyd yn ymateb i’r hiliaeth sy’n dal i fodoli tuag at bobl ddu Cymraeg, a hefyd sut mae Cymru’n gallu bod yn eitha’ obsessed ‘da bod yn ddiwylliant lleiafrifol, ond heb gymryd cyfrifoldeb am ein rhan yn colonialism a perpetuatio darlun eitha’ cul o sut mae rhywun Cymraeg i fod i edrych ac ati.

“Nes i siarad hefyd gyda Dr Lucy Trotter sydd wedi cynnal gwaith ymchwil mewn i’r hanes hiliol o’r Cymru ym Mhatagonia, a sut ni’n gallu anghofio y cyd-destunau imperialaidd o fewn ein hanes ni’n hunain.” 

Mae’r gân yn rhestru nifer o enwau pobl a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn cynnig amrywiaeth i ddiwylliant Cymreig yn nhyb Izzy ac Eädyth. 

“Y bobl da ni’n rhestru yw Jukebox Collective, Ladies of RAge, Privilege Cafe gan Mymuns Soleman, Al Naeem gan Asma Elmi, WAARU, Dom James, Lemfreck, Bragod, Abu Bakr (athro hanes), y teulu Legall (Gaynor a Kyle), caffi Aubergine, Hen Bapur Newydd gan Llinos Annwyl, BoLShe gan Alice Ekland a’r podlediad Mel Mal Jal, y drag queen Tayce a’r band Afrocluster” meddai Izzy. 

Yn ôl Izzy, y nod gyda’r trac hwn hefyd oedd creu cerddoriaeth sy’n swnio fel y tu mewn i ben rhywun dwyieithog, a’r ffordd mae bobl ddwyieithog yn siarad.