Mae’r cerddor ac actor adnabyddus o Ddolgellau, Haydn Holden, yn paratoi i ryddhau ei gynnyrch cerddorol cyntaf ers 20 mlynedd.
Rhyddhaodd Holden ei EP diwethaf ar label Sain 20 mlynedd yn ôl, ond bydd ei sengl ddwbl newydd ‘Hefo Mi 2021 / True’ allan ddydd Gwener nesaf, 14 Mai.
Daeth Haydn i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r grŵp pop CIC gyda Sarra Elgan, Tara Bethan a Steffan Rhys Williams.
Aeth ati wedyn i weithio fel artist unigol am ychydig, cyn troi i ganolbwyntio ar yrfa actio.
Mae wedi chwarae rhannau mewn sawl cyfres drama ac opera sebon dros y blynyddoedd gan gynnwys ‘Partners in Crime: The Moors Murderers’, ‘Doctors’, ‘Stella’ ac yn fwyaf diweddar ‘Coronation Street’ lle bu’n chwarae rhan Rhydian Chivers.
Mae ‘Hefo Mi 2021’ yn ailgymysgiad gan Haydn ei hun o’r trac gwreiddiol ar ryddhawyd ganddo yn 2001. Mae’r fersiwn newydd o’r gân y cynnwys dylanwadau cerddorol o’r 1980au ac adleisiau o gerddoriaeth grwpiau fel S’Express ac Utah Saints.
Mae’r ail drac, ‘True’, yn ffrwyth cydweithio rhwng Haydn a’r DJ Nathan X, sydd ar hyn o bryd yn cael llwyddiant yn y siartiau Prydeinig ac Americanaidd gyda’i ailgymysgiad o ‘Saturday Love’ gan Alexander O’Neal.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y ddau drac ar raglen Rhydian a Shelley ar BBC Radio Cymru fore dydd Sadwrn diwethaf, a byddant allan yn ddigidol ar 14 Mai.