Er na fydd Maes B yn ei ffurf arferol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae cyfle i artistiaid ifanc gystadlu yng nghystadlaethau Maes B gyda’r dyddiad cau bellach wedi ymestyn i 16 Mehefin.
Mae cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed gymryd rhan mewn tair cystadleuaeth arbennig sydd gan Maes B.
Un o’r rhain ydy Brwydr y Bandiau, sydd wedi hen ennill ei blwyf, ond mae hefyd cystadleuaeth ailgymysgu cerddoriaeth, a dylunio gwaith celf record eleni.
Mae fformat Brwydr y Bandiau yn gyfarwydd – cystadleuaeth berfformio ydy hon i grŵp neu unigolyn, gyda’r 4 gorau ym marn y beirniaid yn cyrraedd rownd derfynol.
Mae Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau neu artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol yn y Gymraeg.
Bydd angen i unrhyw un sydd am gystadlu yrru dolen i demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 o ganeuon Cymraeg, a hynny trwy ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod – https://eisteddfod.cymru/brwydr-y-bandiau. Beirniaid y gystadleuaeth ydy Elan Evans ac Ifan Dafydd.
Her ailgymysgu
Yr ail gystadleuaeth ydy un ‘Stems’, lle mae her i ailgymysgu un o ddau drac penodol sef ‘50au’ gan Gwilym neu ‘Pontydd’ gan Mared.
Rhaid i’r gwaith fod yn recordiad cwbl newydd gan y cystadleuydd, a rhaid cael caniatâd i ddefnyddio unrhyw sampl gan y perchennog.
Er mwyn cael copi o stems y caneuon, mae angen ebostio ymaesb@gmail.com.
Cyflwynwraig Radio Cymru, Sian Eleri ydy’r beirniad – mae ‘her stems’ wedi bod yn eitem rheolaidd ar ei rhaglen Radio Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Dylunio gwaith celf
Y gystadleuaeth newydd arall ydy un honno i ddylunio delwedd ar gyfer gwaith celf sengl neu albwm gan fand Cymraeg o ddewis y cystadleuydd.
Beirniad y gystadleuaeth ydy’r dylunydd Steff Dafydd, sydd wedi creu sawl gwaith celf cofiadwy ar gyfer artistiaid Cymreig.
Dylid anfon ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon i ymaesb@gmail.com a gwyb@eisteddfod.org.uk erbyn y dyddiad cau.