Mae’r rapiwr Mr Phormula wedi cyd-weithio gyda’r ddawnswraig Elan Elidyr i greu ‘Matrics Cerddorol’ arbennig sy’n archwilio’r cytgord rhwng technoleg a’n byd naturiol trwy sain a symudiad.
Mae’r fideo wedi’i greu fel rhan o brosiect ‘Plethu/Wave’ sy’n bartneriaeth ar y cyd rhwng CDCC (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru) a Llenyddiaeth Cymru.
Llynedd fe gomisiynwyd 6 fideo tebyg gyda beirdd gwahanol, gan gynnwys pobl fel Mererid Hopwood ac Ifor ap Glyn, ynghyd â dawnswyr llawrydd.
Fel rhan o gyfres newydd, mae Elan ac Ed (Holden, Mr Phormula) wedi dod ynghyd i greu’r fideo trawiadol.
Mae thema’r fideo’n trafod sut gall technoleg bob dydd orlethu ein hamgylcheddau organig, sydd yn ei dro yn cymylu’r llinell gytgord. Mae ‘Matrics Cerddorol’ yn archwilio ‘Matrics’ y berthynas hon.
“Gafon ni’r geiriau ‘harmony/disharmony’ i gychwyn y sgwrs a dyma ni’n cael Zoom bach a fwy neu lai taflu pob math o syniadau o gwympas y lle” eglurodd Elan wrth sgwrsio gyda’r Selar.
“O’n ni’n teimlo’n lwcus achos o’n ni’n meddwl bydde un ni’n wahanol iawn i’r lleill [y fideos blaenorol] – mae’r lleill i gyd yn lan a phert a fi’n credu oedd gyda ni’r siawns i neud rhywbeth gwahanol, achos Ed!”
“O’n ni ’di cyffroi’n meddwl byddwn ni’n gallu cael beatbox yn rhan ohono fe ac yn syth nathon ni ddod fyny efo syniad o bod y gerddoriaeth/sound scape yn rheoli fi wrth ddawnsio.
“Ar ôl y Zoom cyntaf nathon ni fwy neu lai gysylltu trwy ‘voice memos’. Un yn dangos yn fideo neu darn o gerddoriaeth a’r llall yn ateb efo rhywbeth tebyg. Wedyn dyma Ed yn mynd ati i dorri popeth efo’i gilydd a gorffen y cyfanwaith!”
Heb os mae’r canlyniad yn ddifyr ac yn drawiadol…