Bydd y cerddor Daniel Lloyd yn rhyddhau fersiwn newydd o glasur o gân bêl-droed ddydd Gwener nesaf, 17 Medi.
‘I Mewn i’r Gôl’ ydy’r gân dan sylw, cân sydd wrth gwrs yn cael ei chysylltu’n agos â Chlwb Pêl-droed Wrecsam sydd wedi denu llawer o sylw’n ddiweddar diolch i’r ddau seren Hollywood sydd wedi prynu’r clwb.
Mae Daniel Lloyd, yn gerddor adnabyddus iawn bellach ar ôl dechrau ei yrfa gyda’r band Dan Lloyd a Mr Pinc ar ddechrau’r mileniwm. Daw’r canwr a gitarydd dawnus yn wreiddiol o Rhosllannerchrugog ger Wrecsam felly mae’r tîm pêl-droed lleol yn gyfarwydd iawn iddo.
Mae Daniel hefyd yn actor llwyfan adnabyddus ac mae hefyd wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar gyfres deledu Rownd a Rownd yn ddiweddar gan chwarae rhan Aled Campbell.
Mae’n amser cyffrous i glwb pêl-droed Wrecsam ar hyn o bryd ar ôl iddynt gael eu prynu gan y sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
Bydd ‘I Mewn i’r Gôl’ gan Daniel Lloyd allan yn ddigidol ar label Recordiau Sain ar 17 Medi.