‘Dark Too Long’ – sengl newydd Bandicoot

Bydd y grŵp o Abertawe, Bandicoot, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar 26 Chwefror.

‘Dark Too Long’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp dwyieithog, ac mae’n ddilyniant i’r ddwy sengl Gymraeg a ryddhawyd ganddynt yn ddiweddar sef ‘O Nefoedd!’ (Chwefror 2020) a ‘Glaw Ail Law’ (Gorffennaf 2019).

Hon fydd y sengl gyntaf iddynt ryddhau ers ymuno â’r label o Gaerfyrddin, Recordiau Libertino. Dolen lawr lwytho ‘Dark Too Long’.