Datganiad electronig Jaffro

Efallai bydd Jaffro yn enw anghyfarwydd i sawl darllenwr, ond gofynnwch i unrhyw un o selogion y sin gerddoriaeth yng Nghaerfyrddin a byddan nhw’n siŵr o ganu clodydd y cerddor amgen yma.

Yn wir, beth am droi’r cloc yn ôl union hanner degawd, a bwrw golwg ar rifyn cyntaf 2016 Y Selar pan oedd Ysgol Sul – grŵp oedd yn arwain ton newydd o artistiaid Sir Gâr ar y pryd – ar y clawr. Bethan Williams oedd yn gyfrifol am eitem ‘Selar yn Gigio’ y rhifyn hwnnw, wrth iddi fentro i’r Parrot – canolbwynt creadigol tref hyna’ Cymru ar y pryd, a chyrchfan rheolaidd rocars a phobl cŵl yr ardal.

Lein-yp y gig dan sylw? Mae’n dod a dŵr i’r dannedd –  Ysgol Sul, Cpt Smith, Adwaith a neb llai na Jaffro. Ac yn ôl un a holwyd ar y noson, artist mwyaf lleol mwyaf cyffrous yr ardal oedd Jaffro.

Mae taith artistiaid y lein-yp hwnnw wedi amrywio tipyn gydag Ysgol Sul a Cpt Smith yn segur ers sail blwyddyn, tra bod Adwaith ar y llaw arall wedi mynd ati i greu argraff enfawr yng Nghymru a thu hwn.

Ond beth am Jaffro? Wel, mae’r cymeriad difyr yma wedi dal ati’n dawel bach ac ar ei delerau ei hun, a bellach yn barod i ddod i amlygrwydd eto wrth ryddhau ei albwm newydd.

Esblygiad Jaffro

Wil Pritchard ydy’r gŵr sy’n cuddio tu ôl i’r enw Jaffro, ac fel yr eglurodd wrth Y Selar mae wrthi’n creu ei frand arbennig o gerddoriaeth ers tua degawd bellach, ac mae’r sŵn wedi esblygu tipyn dros y cyfnod hwnnw.

“Rwy’ wedi bod yn defnyddio’r enw Jaffro ers dechrau’r 2010au, wedyn yn y pen draw nes i lwytho albwm demo a rhai traciau eraill ar-lein yn 2014. Tua’r adeg yna dechreuais chwarae’n fyw yn Y Parrot, ac ychydig o leoliadau yng Nghaerdydd.

“Roedd y gerddoriaeth ar y pryd yn eithaf lo-fi ac ro’n i’n aml yn ymgorffori nifer o offerynnau i bob trac.

“Nes i lwytho cyfres o EPs ar-lein yn y dilyn hynny ac yn ddiweddarach albwm acwstig, o’r enw Idea.”

Symudodd Wil i Lundain rai blynyddoedd yn ôl, ac mae’n ymddangos bod y newid daearyddol wedi arwain at newid yn ei sŵn hefyd.

“Ar ôl setlo mewn i newid lleoliad yn Llundain, o tua 2017 dechreuodd y prosiect ymgorffori mwy o ffocws electronig, gan arwain yn y pen draw at yr albwm, Mwy, a’r EP o’r enw Solo Figure Melting Down the Stryd yn 2019.”

Datganiad electronig

Mae’r dylanwad electronig wedi aros gyda Jaffro, ac i’w glywed yn glir ar ei record hir newydd, Ffrog Las, a ryddhawyd yn swyddogol ar ddydd Gwener 15 Ionawr. Roedd cyfle cyntaf i glywed teitl drac y casgliad ar wefan Y Selar gwpl o ddyddiau cyn hynny.

Teg dweud bod profiadau 2020, a’r cyfnod clo, wedi effeithio’n wahanol iawn ar amryw gerddorion. Ar y cyfan, mae’n debyg bod artistiaid unigol wedi ffynnu’n fwy, gyda mwy o gyfle i gyfansoddi a datblygu syniadau, a dyna brofiad Jaffro i raddau hefyd.

“Dechreuais ysgrifennu rhai traciau tua diwedd 2019, a nes i droi wedyn i feddwl mwy amdano fel albwm tua dechrau 2020.

“Roeddwn wedi recordio digon o ddeunydd byrfyfyr i’m cadw i fynd trwy’r lockdown, a dyna pryd nes i gynhyrchu’r mwyafrif o’r albwm.

“Roedd peth amser stiwdio wedyn ar gyfer yr ychydig gyffyrddiadau olaf wrth lwc, pan godwyd rhai cyfyngiadau.”

Mae’n ymddangos o sgwrsio gyda Wil ei fod yn teimlo efallai mai’r albwm yma ydy cyfanwaith mwyaf cyflawn Jaffro o ran ei weledigaeth gerddorol.

“Yn arddulliadol, o ran y gerddoriaeth ac o ran y geiriau, mae’n barhad o’r datganiadau diweddar gen i ar y cyfan.

“Ond byddwn yn dweud mai hwn yw fy natganiad mwyaf cwbl electronig hyd yn hyn. Mae dal ychydig o offerynnau yn dangos trwodd o bryd i’w gilydd, ond yn bendant electronig yn bennaf. Digon o beats, digon o ddarnau sy’n dangos na alla’i wrthsefyll chwarae o gwmpas gyda synth!”

Roedd lansiad swyddogol yr albwm nos Iau ar ffurf ffrwd o berfformiad o’r casgliad gan Jaffro ar YouTube. Mae modd prynu Ffrog Las yn ddigidol ar ei safle Bandcamp nawr, ac mae nifer cyfyngedig iawn – cwta bymtheg copi – o CDs hefyd.

Dyma’r teitl drac ar gyfer yr albwm, ‘Ffrog Las’:

 

 

Geiriau: Owain Schiavone
Lluniau: Chloe Tennant