Diwrnod mawr arall heddiw wrth i ni ddathlu Gwobrau’r Selar mewn cydweithrediad â Radio Cymru.
Prynhawn yma, ar raglen Ifan Evans fe gyhoeddwyd mai ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys oedd enillydd teitl ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Roedd y ffryntman, Lewys Meredydd yn sgwrsio gydag Ifan ar y rhaglen, ac fe ddarlledwyr Sesiwn Tŷ arbennig roedd y band wedi’i recordio ar gyfer y rhaglen – gwerth gwrando nôl.
Yna, ar raglen Lisa Gwilym gyda’r hwyr cafwyd y cyhoeddiad mai Eädyth oedd enillydd teitl arbennig ‘Gwobr 2020’ – gwobr arbennig i nodi blwyddyn anarferol.
Bwriad y wobr one off yma oedd i dalu teyrnged i rywun oedd wedi wynebu heriau digynsail 2020 mewn modd cadarnhaol, a heb os mae Eädyth, gyda’i holl egni positif yn ymgorffori hynny.
Roedd sgwrs gydag Eady ar y rhaglen, ynghyd â sesiwn arbennig ac mae modd gwrando nôl nawr.
Llongyfarchiadau mawr i @eadythofficial sydd wedi ennill ‘Gwobr 2020’ yng Ngwobrau @Y_Selar am ymateb i heriau 2020 mewn ffordd mor gadarnhaol a phositif. pic.twitter.com/p
— R
adio Cymru (@BBCRadioCymru) February 10, 2021
Roedd Y Selar yn ddiolchgar iawn i Heno, S4C am noddi’r categori yma ac roedd eitem arbennig ar y rhaglen ynghyd â sgwrs gyda’r enilly
dd.
Dy
ma’r cyfwelia gydag Eädyth:
Llun: Eädyth yn perfformio gyda Shamoniks yng Ngwobrau’r Selar llynedd