Mae rhestrau 3 Uchaf categoriau Fideo Cerddoriaeth Gorau (noddir gan S4C), Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd) a Band Gorau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu.
Dros y ddwy noson ddiwethaf, mae rhestrau 3 Uchaf y chwech categori arall oedd yn ran o bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ar raglenni Radio Cymru Sian Eleri a Lisa Gwilym.
Tro Huw Stephens oedd hi i gyhoeddi’r rhestrau ar gyfer y categorïau oedd yn weddill, a dyma nhw:
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)
Mirores – Ani Glass
Piper Malibu – Papur Wal
Dos yn Dy Flaen – Bwncath
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)
Rhywbryd yn Rhywle – Lewys
Bwncath II – Bwncath
Map Meddwl – Yr Eira
Band Gorau
Lewys
Yr Eira
Bwncath
Cyhoeddwyd hefyd y bydd enillydd y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, yn cael ei gyhoeddi ar raglen Huw wythnos nesaf.
Bydd enillwyr holl gategorïau Gwobrau’r Selar eleni’n cael eu datgelu ar raglenni amrywiol Radio Cymru wythnos nesaf fel rhan o wythnos ddathlu’r gwobrau.