Mae’r cynhyrchydd dawns electronig, FRMAND, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf heddiw, gan sefydlu partneriaeth newydd arall wrth wneud hynny.
Mae FRMAND wedi rhyddhau cyfres o senglau ar y cyd ag artistiaid eraill ers ymddangos gyntaf yn 2018, ac ar gyfer y trac newydd mae wedi partneriaethu â’r cynhyrchydd Jardinio.
Enw’r trac newydd ydy ‘Dau Gi’ ac mae allan ar y label mae FRMAND yn ei redeg, sef Recordiau Bica.
Cynhyrchydd ac artist cerddoriaeth electronig a house o Langrannog ydy FRMAND ac yn y gorffennol mae wedi cyd-weithio gydag artistiaid sy’n cynnwys Mabli, Sorela a Lowri Evans.
Y tro hwn ei bartner cerddorol ydy Jardinio, sef enw llwyfan Dan Jardine sy’n gyflwynydd, newyddiadurwr a chynhyrchydd.
Bwriad FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau ac ailgymysgiadau ar draws sawl genre yn yr iaith. Mae’r cynhyrchydd yn gwbl o ddifrif am ei gerddoriaeth, ond eglura fod y trac diweddaraf wedi dechrau fel ychydig o hwyl.
“Dechreuodd y prosiect fel bach o sbort i fod yn onest” meddai FRMAND am y sengl.
“O’n i wedi clywed y stori am y ‘ddau gi bach’ nifer o weithiau wrth dyfu lan yng Nghymru, ac er bod y stori wreiddiol yn un i blant, mae’n gadael llawer o gwestiynau.
“Cwestiynau fel ‘sut wnaeth y ddau gi golli eu hesgidiau?’
“O’n i felly moen gwneud fersiwn o’r trac i oedolion sydd gyda mwy o ddirgelwch, ac mae clawr y sengl i fod portreadu’r ochr yma o’r stori. Ges i fy ysbrydoli i greu y gerddoriaeth tu ôl i’r geiriau ar ôl gwrando ar lwyth o gerddoriaeth electroneg y 90au, sef y cyfnod nes i dyfu lan ynddo, ac o’n i moen defnyddio synths sy’n rhoi effaith o ddirgelwch.
Gobaith FRMAND ydy byddan nhw hefyd yn gallu cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl yn y dyfodol agos.