‘Dewin Dwl’ gan Melin Melyn

Mae’r grŵp lliwgar Melin Melyn wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Mawrth 20 Gorffennaf.

‘Dewin Dwl’ ydy enw’r trac newydd sy’n rhagflas pellach i EP cyntaf y grŵp, ‘Blomonj’, fydd yn cael ei ryddhau ar 17 Awst, drwy label Bingo Records

Rydym eisoes wedi gweld tri o draciau eraill yr EP, sef ‘Rebecca’, ‘Mwydryn’ a ‘Lucy’s Odyssey’ yn cael eu rhyddhau fel senglau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae aelodaeth y band wedi ehangu rhywfaint er iddynt ddechrau dod i amlygrwydd gwpl o flynyddoedd yn ôl gyda’u sioeau byw cofiadwy. Yr aelodau erbyn hyn ydy Gruff Glyn yn canu, chwarae’r gitâr a’r sax; Will Barratt yn gitarydd blaen; Garmon Rhys ar y bas; Cai Dyfan ar y dryms; Rhodri Brooks ar y gitâr bedal ddur; a Dylan Morgan  ar yr allweddellau.

Fel arfer mae rhyw ddylanwad neu thema arbennig i ganeuon Melin Melyn ac mae hynny’n wir am ‘Dewin Dwl’ yn ôl ffryntman y grŵp, Gruff Glyn.

“Dwi’n siwr ein bod ni gyd wedi cwrdd a rhyw ddewin dwl rywbryd, a phan maen nhw’n ein gadael ni, mi fyddai’n aml yn pendroni, i ble yr awn nhw nesa?” meddai Gruff.

“Dyma stori chwedlonol: am ddoethion yn dadlau ar ben clawdd, yn dawnsio yng nghwmni yr ehedydd ac yn smocio peipen enfawr mewn tafarn glyd. Tan y tro nesa!”

Ac mae ‘na un ffaith bach diddorol arall am y trac yn ôl Gruff…

“Os wnewch chi wrando’n astud, yn ystod solo Will ar y gitâr, fe allwch glywed llais y prifardd T Glynne Davies yn darllen darn o’i gerdd ‘Hedydd yn yr Haul’ yn y cefndir.”

Mae’r sengl newydd wedi’i chynhyrchu gan Llyr Pari  yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Y gobaith ydy bydd cwpl o gyfleoedd i weld Melin Melyn yn perfformio’n fyw dros yr haf, yn benodol felly yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl End of the Road.

Bydd EP cyntaf y grŵp, Blomonj yn dod allan ar yr 17 Awst, drwy label Bingo Records.

Llyr Pari sydd wedi cymysgu’r EP, a chynhyrchu tri o’r caneuon (sef ‘Dewin Dwl’, ‘Little Man’ a ‘Jelly vs Blomonj’) ac mae’r senglau eraill a ddaeth allan ynghynt (‘Rebecca’, ‘Mwydryn’ a ‘Lucy’s Odyssey’) dan arweiniad Tom Rees a Dylan Morgan, ar yr EP hefyd.