Diwedd Gŵyl Gopr Amlwch?

Mae trefnwyr Gŵyl Gopr Amlwch wedi cyhoeddi na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn 2022, a’i bod yn debygol na fydd yn parhau o gwbl.

Mae’r ŵyl gerddoriaeth wedi’i sefydlu yn nhref Amlwch ar Ynys Môn ers sawl blwyddyn bellach, ond wedi profi trafferthion amrywiol yn ddiweddar.

“Ar ôl 4/5 mlynedd o geisio ail-sefydlu yr Ŵyl, mae’r pwyllgor presennol wedi gnweud y perderfyniad tu hwnt o anodd i beidio a pharhau gyda threfniadau yr Ŵyl nesaf” eglura prif drefnydd yr ŵyl, Arwel Hughes.

“Mae sawl rheswm dros hyn gan gynnwys amgylchiadau personol y trefnwyr/materion ariannol a chymorth cyffredinol sydd ar gael, ond yn bennaf oll, yr ansicrwydd sydd wedi dod i’n rhan ni i gyd yn sgil y pandemig.”

Er hynny, dywed eu bod fel trefnwyr cyfredol yn barod iawn i helpu petai grŵp newydd yn awyddus i ail-sefydlu ac ail gychwyn trefnu, gan ddarparu cyngor a throsglwyddo y ddogfennaeth berthnasol.

Maent yn pwysleisio na fu’r penderfyniad yn un hawdd a’u bod yn siomedig iawn â’r sefyllfa, gan ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.