Mae’r DJ a chynhyrchydd o Gaernarfon, Endaf, wedi gwneud tipyn o ail-gymysgu ar draciau artistiaid eraill yn ddiweddar, a’r fersiwn newydd o ‘Dwylo Dros y Môr’ ydy’r gân ddiweddaraf i gael triniaeth ganddo.
Rhyddhawyd ‘Dwylo Dros y Môr 2020’ fel sengl elusennol cyn y Nadolig, gan roi gwedd newydd i’r glasur a ryddhawyd yn wreiddiol ym 1985.
Rhyddhawyd yr ailgymysgiad gan Endaf o’r fersiwn newydd wythnos diwethaf, a’r bwriad ydy denu mwy o sylw at y gân sy’n codi arian at achos da.
Y gantores a chyflwynwraig Elin Fflur oedd yn bennaf gyfrifol am gydlynu’r prosiect i ail-ryddhau ‘Dwylo Dros y Môr’ a ryddhawyd yn wreiddiol fel sengl elusennol ym 1985.
Cafodd gymorth gan y cerddor Owain Gruffudd Roberts, sy’n gyfrifol am y trefniant newydd o’r gân, i dynnu dros 30 o artistiaid cyfoes ynghyd i recordio ‘Dwylo Dros y Môr 2020’.
Siartiau iTunes
Darlledwyd rhaglen am y broses o ryddhau’r trac ar S4C ar 27 Rhagfyr, a llwyddodd y sengl gyrraedd rhif 14 yn siartiau iTunes ar draws y DU.
“Mae’r ymateb wedi bod yn hollol anhygoel” meddai Elin Fflur.
“Mae’n gân sy’n llwyddo i uno pobl mewn ffordd gwbl naturiol. Dwi’n sicr bod gallu tynnu artistiaid y sin gerddorol heddiw ynghyd wedi creu egni positif mewn blwyddyn mor anodd i gymaint o bobl.
“Mae’r symbol o ddwylo yn estyn cymorth mor berthnasol eleni ag erioed o’r blaen a dwi wrth fy modd fod ein trefniant newydd o gân mor eiconig wedi cyffwrdd calonnau cenhedlaeth newydd o Gymry.”
Ymysg yr artistiaid sy’n ymddangos ar y fersiwn newydd mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins, Elidyr Glyn ac Elin Fflur ei hun wrth gwrs.
Mae ambell gyswllt teuluol gyda’r recordiad gwreiddiol hefyd gyda’r chwiorydd Lisa, Gwenno a Mari o’r grŵp Sorela yn dilyn ôl traed ei mam, Linda Griffiths, a ganodd ar y fersiwn wreiddiol ym 1985.
Mae Sion Land, drymiwr y grŵp Alffa a mab y drymiwr ar y gân wreiddio, Graham Land, yn chwarae drymiau ar y fersiwn newydd hefyd.
Yr Elusen
“Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng oedd yn digwydd ochr arall y byd [newyn Ethiopia] oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni” meddai Elin Fflur.
“Mae 2020 di bod yn flwyddyn mor anodd – mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro’n ofnadwy oherwydd y pandemig.
“A dyna pam fo Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru Sefydliad Cymunedol Cymru yn bwysig; mae’n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni.
“Ers ffilmio mae’r elusen am rannu’r arian drwy eu Cronfa Ymateb ac Adfer Sefydliad Cymunedol Cymru, sy’n helpu sefydliadau ledled Cymru oroesi’r argyfwng yn uniongyrchol.”