Bydd Mei Gwynedd yn rhyddhau ei drydedd sengl o’r flwyddyn ddiwethaf ar ddydd Gwener 21 Mai.
‘Dyddiau Gwell i Ddod’ ydy enw’r trac newydd gan Mei sy’n ddilyniant i’r senglau ‘Awst 93’ (a ryddhawyd ym Mehefin 2020) a ‘Dim Ffiniau’ (Hydref 2020).
Mae’r sengl ddiweddaraf yn un amserol iawn, ac yn anthem bositif sy’n dathlu’r newid hir ddisgwyliedig sy’n digwydd yn ein bywydau ar hyn o bryd.
“Roedd y flwyddyn ddwythaf yn anodd iawn i lawr o bobol” meddai Mei Gwynedd.
“…ac roeddwn yn teimlo fy mod i angen ysgrifennu cân i grynhoi yr hyn a ddigwyddodd.”
“Os na byswn ni yn rhoi y profiad yma mewn ffurf cân, byswn i’n teimlo fy mod yn trio osgoi pwnc anferth a ddigwyddodd. Ond ma hon yn gân o obaith, a phenderfynais ysgrifennu’r gân mwyaf dyrchafol posib, gan obeithio fod pennod newydd cyffrous o’n blaenau.”
Dyma’r sengl olaf o’r gyfres o dair cân oddi-ar LP newydd y cerddor profiadaol fydd yn cael ei ryddhau eleni ar ei label, Recordiau JigCal.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl gan y gwneuthurwr ffilm uchel ei barch, Dyl Goch: