Dyfarnu gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig i Datblygu

Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) wedi cyhoeddi mai Datblygu ydy enillydd eu Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni.

Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan y DJ  Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron yn 2011 gyda’r nod o ddathlu’r gerddoriaeth orau o Gymru’n flynyddol.

Pob blwyddyn mae rheithgor o arbenigwyr cerddoriaeth yn dewis rhestr fer o recordiau sydd wedi eu rhyddhau dros y flwyddyn flaenorol, ac yna mae panel o feirniaid yn dewis un o’r rhain i ennill y brif wobr.

Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Gruff Rhys, Gwenno, The Gentle Good, Georgia Ruth ac Adwaith.

Gwobr Ysbrydoliaeth

Ers 2018, mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig hefyd yn dyfarnu gwobr ychwanegol dan yr enw ‘Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig’ – Meic Stevens oedd enillydd cyntaf y wobr honno.

Bydd enillydd y brif wobr eleni’n cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn The Gate, Caerdydd ar nos Fawrth 23 Tachwedd, ond cyn hynny mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi enillydd y wobr Ysbrydoliaeth.

Mae Datblygu, a’u halbwm diwethaf, Cwm Gwagle, wedi’u cynnwys ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni – rhyddhawyd yr albwm ym mis Awst 2020 ar label Ankstmusik.

Ym mis Mehefin eleni, bu farw sylfaenydd a chanwr y grŵp, David R. Edwards yn 56 oed gan esgor ar lu o deyrngedau. Dywed y trefnwyr eu bod yn cyflwyno’r wobr er cof am Dave ac eu bod yn falch iawn bod aelod craidd arall y grŵp, Pat Morgan, yn mynd i dderbyn y wobr yn y seremoni ar ran Datblygu.

“Mae Datblygu wedi bod yn ysbrydoliaeth cyson ers iddynt ffurfio yn Aberteifi yn yr 80au cynnar” meddai trefnwyr y wobr wrth gyhoeddi’r newyddion ar eu cyfryngau ar-lein.

“Yn arbrofol, cyffrous ac yn parhau i ddatblygu, mae David R.Edwards a Patricia Morgan wedi creu albyms iconic, a dangos fod cerddoriaeth o Gymru’n gallu bod yn annibynnol o bopeth.

“Mae dylanwad Datblygu ar y sîn gerddoriaeth yn bell-gyrhaeddol, gyda John Peel a Super Furry Animals yn mynd a’u cerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd. Maent yn eiconau cerddoriaeth Gymraeg, a’u gweledigaeth yn rhyngwladol.”

Dyma ‘Cariad Ceredigion’ o’r albwm Cwm Gwagle: