Eädyth yn rhyddhau ‘Cydraddoldeb i Ferched’

Mae Eädyth wedi rhyddhau sengl newydd sy’n dathlu Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021.

Enw’r gân newydd ydy ‘Cydraddoldeb i Ferched’, ac mae’n cyfuno geiriau Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru gyda cherddoriaeth y gantores dalentog o Ferthyr.

Mae’r trac allan yn swyddogol ers dydd Gwener 21 Mai ar label Recordiau I KA CHING, ac fe fydd yn Drac yr Wythnos BBC Radio Cymru o ddydd Llun 24 Mai ymlaen.

Bob gwanwyn ers 1922 mae’r Urdd wedi rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan bobl ifanc Cymru gyda’r byd. Cymru yw’r unig wlad sydd wedi sicrhau neges o’r fath yn flynyddol.

Lluniwyd geiriau Neges Heddwch 2021 gan griw o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdy ‘Cydraddoldeb i Ferched’ o dan ofal Gwennan Mair, sef Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.

Mae’r Neges Heddwch wedi’i chyfieithu i 65 o ieithoedd hyd yma – y nifer mwyaf erioed yn hanes hir y Neges.

Yna, gofynnwyd i’r cerddor Eädyth gyfansoddi trac yn defnyddio’r geiriau arbennig hyn.

“Dw i wir yn teimlo fod geiriau ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn rai hynod amserol, ac wrth eu darllen, ro’n i’n medru uniaethu â nhw yn llwyr,”meddai Eädyth.

“Mae hi wedi bod mor braf cael bod yn rhan o gyhoeddi’r Neges Heddwch eleni, ac mae’n gyffrous meddwl y bydd y Neges yn cael ei darllen a’i chlywed ar draws y byd.”

Fe fydd Eädyth hefyd yn rhyddhau sengl newydd arall ddydd Gwener nesaf, 28 Mai, o’r enw ‘Inhale / Exhale’ ar label Recordiau Libertino.

Mae ‘Inhale / Exhale’ yn fynegiant personol Eädyth i amseroedd ansicr y flwyddyn ddiwethaf, ac yn llwyddo i ddarganfod yr agweddau positif wrth iddi ollwng gafael o’r ofn, a gadael i’r positifrwydd ddisgleirio trwy ei llais ac alaw llawn soul.