Eädyth yn rhyddhau sengl ‘Breuddwyd’

Mae Eädyth wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 5 Chwefror.

‘Dream / Breuddwyd’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar label UDISHIDO.

Yn ôl y gantores mae’r sengl newydd yn taflu goleuni ar ei dylanwadau gyda’r sŵn neo-soul ffresh sydd wedi bod yn rhinwedd o’i chynnyrch diweddaraf.

“Mae ‘Breuddwyd / Dream’ yn ymwneud â theimladau, meddyliau a brwydrau personol rydw i wedi’u teimlo yn ystod y broses lockdown” eglura Eädyth.

“…ond hefyd sut y gallwch chi oresgyn y teimladau hynny o amheuaeth bob amser trwy chwilio am ysbrydoliaeth newydd a dilyn eich breuddwydion a’ch dyheadau.”

Roedd cyfle cyntaf i glywed a gweld Eädyth yn perfformio’r trac yn y gig rhithiol ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ diweddaraf ar y diwrnod rhyddhau, gyda’r set wedi’i ffilmio ar lwyfan Theatr y Ffwrnes yn Llanelli.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un gynhyrchiol i Eädyth sydd wedi rhyddhau sawl sengl unigol, ond hefyd wedi rhyddhau cynnyrch gydag Endaf, Shamoniks ac Izzy Rabey.

Dyma set Yn Fyw o’r Ffwrnes Eädyth: