Mae gigs rhithiol ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ yn parhau yn ystod 2021, ac Eädyth fydd y nesaf i berfformio ar 5 Chwefror.
Cynhelir y perfformiadau ar lwyfan Theatr y Ffwrnes yn Llanelli gan eu ffrydio ar YouTube a Facebook.
Cafwyd dwy sioe lwyddiannus ym mis Rhagfyr gan Alffa a Gwilym, gyda 6000 yn gwylio eu setiau o fewn 48 awr o gael eu darlledu.
Cwpl o wythnosau yn ôl hefyd darlledwyd y sioe ddiweddaraf yn y gyfres wrth i Mellt berfformio yn y Ffwrnes, a cafwyd ymateb arbennig o dda unwaith eto i set y grŵp o Aberystwyth.
Y seren electronig o Ynysowen, Eädyth, a gafodd flwyddyn hynod o brysur yn ystod 2020 fydd yr enw cyfarwydd nesaf i berfformio yn y gyfres. Bydd ei set yn cael ei ddarlledu ar ddydd Gwener 5 Chwefror am 8pm er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru.
Mae’r gigs yn cael eu ffilmio ymlaen llaw cyn y darllediad ar-lein ac roedd Eädyth wedi mwynhau’r perfformiad yn fawr.
“Cefais amser gwych yn Ffwrnes yn recordio fy set, roedd y tîm a’r cyfleusterau yn anhygoel ac roedd yn gymaint o ‘chill vibes’” meddai Eädyth.
“Roedd yn braf iawn cael fy gig cyntaf yn ôl yma ar ôl y flwyddyn anodd rydyn ni wedi’i chael ac roedd mynd yn ôl ar y llwyfan eto a pherfformio yn gymaint o rush. Methu aros i chwarae yma eto!”
Mae’r gigs yn rhad ac am ddim ac yn cael eu darlledu ar sianeli Facebook, AM a YouTube Theatr y Ffwrnes. Mae modd cofrestru ymlaen llaw ar wefan y Theatr er mwyn derbyn dolen i wylio’r sioe dros ebost.
Dyma set Mellt: