Endaf Emlyn ydy gwestai arbennig nawfed sengl Sywel Nyw yn 2021

Mae nawfed sengl Sywel Nyw o’r flwyddyn allan heddiw, ac ei westai arbennig y tro hwn ydy’r eicon cerddoriaeth Gymraeg,  Endaf Emlyn.

‘Traeth y Bore’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sy’n ran o brosiect uchelgeisiol Sywel Nyw i ryddhau un sengl bob mis yn 2021, gan gyd-weithio gydag artist gwahanol ar bob un.

Mae’r trac wedi’i ysgrifennu ar y cyd ag un o arloeswyr ac eiconau mwyaf y sin roc Gymraeg, Endaf Emlyn ac roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar raglen BBC Radio Cymru Tudur Owen ddydd Gwener diwethaf.

Dyma’r nawfed sengl i Sywel Nyw, sef prosiect unigol canwr a gitarydd Yr Eira, Lewys Wyn, ei ryddhau eleni – un ym mhob mis gan gyd-weithio gydag artist gwahanol bob tro.

Mae eisoes wedi rhyddhau senglau blaenorol gyda Mark Roberts, Casi Wyn, Gwenno Morgan, Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith, Glyn Rhys-James o’r grŵp Melt, Lauren Connelly a Steff Dafydd o’r grŵp Breichiau Hir.

Y sengl ddiwethaf o’r prosiect oedd ‘Static Box’ gyda’r band Gwilym a ryddhawyd ddiwedd mis Awst.

Wrth drafod y sengl gyda’r Selar, mae’n amlwg bod Lewys wedi mwynhau’r profiad o weithio gydag Endaf yn fawr.

“Ddoth y gân at ei gilydd dros gyfnod yr haf” meddai Lewys am y trac.

“Ges i ac Endaf gyfle i rannu ychydig o demo’s efo’n gilydd. Mae gan Endaf ddiddordeb mawr yn y broses gynhyrchiol ac roedd y syniad o rannu prosiect a syniadau ar-lein yn rhywbeth eitha’ newydd iddo.

“Mae o’r un mor frwdfrydig ag erioed am gerddoriaeth ac roedd y broses o gyd-weithio’n hollol wych.”

Ellie Owen sy’n gyfrifol am waith celf y sengl, ynghyd â phob un o’r rhai blaeniorol, a bydd y rhai craff ohonoch yn sylw ar y cyfeiriad at albwm cyntaf Endaf Emlyn, Hiraeth, ar y gwaith celf.