EP annisgwyl Omaloma

Yn hollol ddi-rybudd, mae’r grŵp pop seicadelig o Ddyffryn Conwy, Omaloma, wedi rhyddhau EP newydd.

Gollyngodd y record fer o’r enw Roedd ar safle Bandcamp  Omaloma fore dydd Gwener diwethaf gan greu dipyn o gyffro ymysg y ffans.

Wedi’i ysgrifennu a’i recordio yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a’i recordio o hirbell oherwydd cyfyngiadau Covid, mae’r casgliad byr o ganeuon yn cynrychioli ymgais y grŵp i wneud synnwyr o fyd cythryblus.

Yn ogystal â’r pandemig, mae’r caneuon yn mynd i’r afael â rhai o’r themâu mawr sydd wedi dod i’r wyneb dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd y trac ‘400+’ ei ysgrifennu ar y diwrnod y dymchwelwyd cerflun y masnachwr caethweision, Edwards Coleston ym Mryste gan brotestwyr fel rhan o’r symudiad Black Lives Matter.

Yna, ‘Afalau Drwg’ yn trafod y rhaniadau sy’n wynebu America, ac mae ‘Awyr Agored’ yn alarnad i’r bobl sy’n methu fforddio prynu tŷ yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Mae’r gân yn sôn am hanes dyffryn tawel yn cael ei drawsnewid i barc antur dychmygol.

Mae naws trydydd trac y casgliad, ‘Peloton’, ychydig yn wahanol i’r caneuon eraill ond mae dwyster iddi wrth groniclo hanes beiciwr sy’n ansicr a yw’n ddigon da i gystadlu yn y ras y mae ynddi.

George Amor, ddaeth i’r amlwg yn wreiddiol gyda’r band Sen Segur, ydy prif egni Omaloma ac ef sydd wedi ysgrifennu’r bedair cân sydd ar y record fer. Mae Llŷr Pari yn ymuno i berfformio ar y recordiad, ac ef sydd hefyd yn gyfrifol am y gwaith cynhyrchu.

Roedd holl elw gwerthiant yr EP ar Bandcamp dros y penwythnos yn mynd i elusen Black and Green Cross sy’n rhoi cymorth cyfreithiol i brotestwyr ac ymgyrchwyr.