EP Dafydd Hedd ar y ffordd

Bydd y cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, yn rhyddhau ei EP newydd ym mis Mehefin.

‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’ ydy enw’r casgliad byr newydd fydd allan yn ddigidol ar 4 Mehefin. Bydd modd rhag archebu’r record cyn hynny ar 28 Mai ar iTunes Store.

Mae’r EP yn dilyn dwy record hir gan Dafydd sydd wedi cael croeso cynnes – ‘Y Cyhuddiadau’ (2019) a ‘Hunanladdiad Atlas’ (2020). Mae’r ddwy wedi cyrraedd rhestr 10 Uchaf ‘Albwm Gorau’r Flwyddyn’ Y Selar – rhestr sy’n cael ei llunio ar sail pleidlais gyhoeddus gan y darllenwyr.

EP pump trac ydy ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’ ac yn ôl y cerddor mae’n cynnwys amrywiaeth o ganeuon pync a roc ar un llaw, a rhai mwy ymlaciol fel ‘Colli ar fy Hun’ a ‘Pam Mae Fory’n Dod’ ar y llall.

Mae’r record fer yn crynhoi gwerth blwyddyn a hanner o gyfansoddi, crefftio ac ysgrifennu, ac fe’i recordiwyd dros gyfnod o fis gyda chymorth Sam Durrant yn Stiwdio Un yn Rachub, a gyda chefnogaeth y cerddor sesiwn Dan Cutler.

“Yn fy natur bersonol o sgwennu caneuon, credaf fod themâu pendant yn cysylltu’r caneuon rhain” meddai Dafydd Hedd.

“…yr angen am gymdeithas decach, fwy gwir, lle nad yw problemau yn cael ei stwffio dan y carped ond yn cael eu delio gyda nhw.

“Mae’r syniad o ddi-faterwch ymysg yr ifanc wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn ffordd y freuddwyd hon o fewn y gymdeithas i mi, a gyda’r casgliad hwn, dwi’n protestio drwy harmoni er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.”

Mae Dafydd wedi bod yn weithgar iawn o ran perfformio gigs rhithiol ar ei gyfryngau digidol dros y flwyddyn a mwy diwethaf, ac er ei fod yn edrych ymlaen at gael perfformio’r caneuon yn fyw, mae’n cydnabod nad yw’n siŵr pryd daw’r cyfle i wneud hynny. Pan ddaw’r cyfle, mae ganddo gynlluniau mawr meddai.

“Wrth gwrs, mae’n anodd gallu dweud pryd allai gigio a wirioneddol berfformio’r EP hon yn fyw, ond pan ddaw’r amser, byddaf yn bwriadu gwneud ‘tour’ efallai o gwmpas sefydliadau yng Nghymru fel Neuadd Ogwen, Y Festri, Yr Orsedd neu mewn mannau tu allan fel Llys Dafydd ym Methesda.”

Dywed Dafydd ei fod hefyd yn bwriadu cynhyrchu copïau CDs ar gyfer yr EP gan eu postio i brynwyr, yn ogystal â’u dosbarthu yn rhai o siopau’r Gogledd.

“Mewn un brawddeg, mae’n werth clywed yr EP hon oherwydd mae’n dangos y mathau o arddulliau a mathau gwahanol o gerddoriaeth fel artist rwyf yn treialu ac yn cyflawni” meddai Dafydd.