EP Hyll allan wythnos nesaf

Bydd y grŵp o Gaerdydd, Hyll, yn rhyddhau eu EP newydd ar 23 Gorffennaf ar label Recordiau JigCal.

Enw’r record fer newydd ydy Mymryn ac mae’n ddilyniant i’r EP Rhamant a ryddhawyd ganddynt yn 2019.

Yn nodweddiadol o’r grŵp, mae Mymryn yn gasgliad o ganeuon gonest, torcalonnus ond eto doniol, y cyfuniad cyfarwydd ac unigryw gan Hyll.

Yn ychwanegol i’r rhythmau gitâr gwych sy’n nodwedd o gerddoriaeth Hyll, mae’r EP yma’n cynnwys cordiau a dilyniannau hudol ar y synths yn y gân ‘Defnydd Personol’ ac yn cynnwys perfformiadau lleddfol ar y ffidil gan Megan Cox a Rhodri McDonagh yn y gân ‘Ar Draws y Bydysawd’.

Yn ôl y grŵp, mae’r caneuon ar yr EP yn ymestyn yn ôl dros beth amser.

Dyma gasgliad o ganeuon wedi eu cyfansoddi dros y 5 mlynedd diwethaf” meddai Hyll.

“Mae pob cân yn bodoli fel byd bach eu hunain ond yn dod at ei gilydd i greu’r EP Mymryn, caneuon sydd ychydig yn llai Hyll na’r arfer…”

I gyd-fynd â’r newyddion am yr EP, mae Hyll wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Ar Draws y Bydysawd’ sydd i’w weld ar-lein nawr.  

Recordiwyd a mastrwyd y cyfan yn Stiwdios JigCal gan Mei Gwynedd.

Dyma fid ‘Ar Draws y Bydysawd’: