Mae EP i gydfynd â chyd-gynhyrchiad newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr wedi’i ryddhau ers 10 Awst.
Yn ystod mis Awst eleni, bydd ‘Gwlad yr Asyn’, cyd-gynhyrchiad Cymraeg newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, yn teithio canolfannau ledled Cymru. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru fynd ar daith ers y cyfnod clo, ac mae’r cynhyrchiad hefyd yn garreg filltir i gwmni theatr Os Nad Nawr fel cynhyrchiad cyntaf erioed y cwmni.
Mae’r EP ‘Gwlad yr Asyn’ yn cynnwys recordiadau o 5 o ganeuon sydd yn y sioe newydd gan y dramodydd Wyn Mason, a gaiff ei chyflwyno’n bennaf fel cynhyrchiad awyr agored. Yn gyfuniad o ddrama ddychanol, alegori, caneuon a cherddoriaeth fyw.
Gyda’r cyfarwyddwr Steffan Donnelly wrth y llyw, mae tri pherfformiwr yn y sioe: yr actores Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a cherddorion Samiwel Humphreys a Bethan Rhiannon (Calan, Pendevig, NoGood Boyo, Shamoniks).
“Mae hon yn ddrama aml-haenog” eglura Steffan Donnelly am y cynhyrchiad.
“Mae’n stori gariad, sgwrs onest, siwrne epig, alegori am Gymru a gìg electro-gwerin! Dwi’n siŵr mod i’n siarad ar ran llawer o’r gynulleidfa wrth ddeud, ar ôl y 15 mis diwethaf, fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at gerddoriaeth, stori dda, a drinc yn yr haul (gobeithio)!”
Mae’r EP yn cael ei ryddhau ar label UDISHIDO.
Manylion Taith Gwlad yr Asyn:
10 + 11 Awst – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (8pm)
14 Awst – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug (awyr agored) (7pm)
16 + 17 Awst – Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli (awyr agored) (7.30pm)
20 + 21 Awst – Pontio, Bangor (awyr agored) (7.30pm)
23 + 24 Awst – Parc Pen-bre, Llanelli (awyr agored) (amser i’w gadarnhau)
25 + 26 Awst – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (awyr agored) (7.30pm)