Euros Childs yn troi at ganeuon pobl eraill

Fel sy’n draddodiadol tua’r adeg yma o’r flwyddyn, mae Euros Childs wedi rhyddhau albwm newydd er 22 Rhagfyr. 

Blaming is all on Love ydy enw record hir diweddaraf y cerddor cynhyrchiol oedd yn arfer bod yn aelod o’r grŵp Gorkys Zygotic Mynci. 

Mae’r albwm ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho oddi-ar ei wefan, a’r cerddor ddim ond yn gofyn am gyfraniad o ddewis y gwrandäwr. 

Mae’r casgliad newydd ychydig yn wahanol i albyms blaenorol Euros gan ei fod yn llawn o ganeuon gan gerddorion eraill. 

Mae Euros yn gyfarwydd fel un o gyfansoddwyr gorau a mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, ond y tro hwn mae wedi troi at ganeuon sydd wedi’u hysgrifennu gan eraill gan gynnwys Kevin Ayers, Bert Jansch, Judee Sill, Julian Cope, Colin Blunstone, Jeff Lynne, Pete Dello, Duke Ellington & Sydney Russell, Ian Hunter a Syd Barrett.

Recordiwyd yr albwm ym Mhorth Lliw (Freshwater East) yn Sir Benfro gan y cynhyrchydd Stephen Black, sydd hefyd yn adnabyddus fel y cerddor Sweet Baboo.

Fe’i recordiwyd ym mis Mehefin 2021 gydag Euros yn chwarae’r piano, harmoniwm a’r gitâr ar y casgliad ynghyd â chanu. 

Mae rhyddhau’r albwm yn cynnal rhediad anhygoel Euros Childs o ryddhau o leiaf un albwm unigol y flwyddyn ers rhyddhau ei record hir gyntaf, Chops, yn 2006.

Traciau’r albwm ‘Blaming it all on Love’: 

Blaming it all on Love (gan Kevin Ayers)

Fresh as a Sweet Sunday Morning (gan Bert Jansch)

Lady O (gan Judee Sill)

Can’t Get it Out of my Head (gan Jeff Lynne) 

I Want Some More (gan Colin Blunstone) 

Morning Sunshine (gan Jeff Lynne)

Do I Still Figure in your Life (gan Pete Dello) 

Don’t Get Around Much Anymore (gan Duke Ellington & Sydney Russell)

Head Hang Low (gan Julian Cope) 

Roll Away the Stone (gan Ian Hunter)

Wined and Dined (gan Syd Barrett)