Mae sengl ddiweddaraf y ddeuawd talentog Evans McRae allan ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mai. ‘Careful’ ydy enw’r trac newydd gan bartneriaeth cerddorol Lowri Evans a Tom McRae, ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm, ‘Only Skin’.
Mae’r trac newydd yn cael ei ddisgrifio fel ‘tafell o bop gwych y 70au’, gyda dylanwadau cryf artistiaid fel Carly Simon a Fleetwood Mac, sy’n eu gweld yn uno melodi hyfryd gyda geiriau sinistr.
Mae Lowri a Tom yn creu partneriaeth gyffrous gyda Lowri wrth gwrs yn llais cyfarwydd yng Nghymru ers sawl blwyddyn, a McRae yntau wedi rhyddhau 8 albwm dros y blynyddoedd yn ogystal â chael ei enwebu ar gyfer gwobrau Brit a Mercury yn y gorffennol.
Cyfarfu’r ddau’n wreiddiol mewn penwythnos preswyl a chanfod eu bod ill dau’n rhannu’r un cariad at ganeuon emosiynol a phwerus.
Yn dilyn sawl taith rhwng Sir Benfro a chartref gorllewinol McRae, gan fynd ati i ysgrifennu sawl trac, sylweddolodd y ddau eu bod wedi ysgrifennu albwm i’w hunain.
Wedi’i adeiladu ar ben grŵf, gyda gitâr Lee Mason, sef partner Lowri, yn ychwanegu elfennau o bop melodic iddo, mae’r gân yn adeiladu at uchafbwynt gwyllt a gwych!