Facebook Datblygu Dysgu Cymraeg

Mae criw bach o bobl sydd wedi eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth Datblygu, wedi creu grŵp Facebook newydd o’r enw ‘Datblygu Your Welsh’ i drafod cerddoriaeth y band eiconiog o Aberteifi. 

Yr Eidales, Gisella Albertini sy’n bennaf gyfrifol am y grŵp newydd. Gwneuthurwraig ffilm ydy Gisella,  a aeth ati i ddysgu Cymraeg ar wefannau SaySomethinginWelsh a Duolingo wrth gynhyrchu’r ffilm ddogfen ‘This Film Should Not Exist’ yn ddiweddar.

Y prif reswm yr aeth ati i ddysgu’r iaith oedd oherwydd ei bod wedi darganfod cerddoriaeth Datblygu, ac eisiau gwybod mwy am y grŵp a hefyd eisiau deall geiriau eu caneuon. 

Roedd dylanwad mawr gan Gisella ar benderfyniad y label o Rufain, Hate Records, i ail-ryddhau’r recordiau Pyst a Wyau yn yr Eidal yn y gwanwyn eleni. Bydd rhai ohonoch yn cofio ein erthygl am y recordiau hyn ar y pryd, pan fu’r Selar yn sgwrsio gyda Gisella. 

Nawr, ers dechrau’r mis, mae wedi mynd ati i ffurfio grŵp newydd ar Facebook ar y cyd gyda ffan arall, Stuart Estell, er mwyn bod yn gyrchfan i bobl tebyg iddi hi sy’n caru cerddoriaeth Datblygu.

Dyma ddisgrifiad y grŵp newydd:

Wedi dechrau dysgu Cymraeg oherwydd Datblygu?

T’eisiau sbeisio lan dy Gymraeg gyda Datblygu?

Ffan Datblygu?

Newydd dod o hyd iddyn nhw ac eisiau gwybod mwy am eu caneuon a geiriau?

Dim syniad am beth yw Datblygu ond ti’n awyddus i ffeindio mas?

Dyma’r grŵp i chi!

 

Yn ôl Gisella roedd wedi bod yn ystyried creu’r dudalen Facebook ers amser maith, ac roedd hyd yn oed David R. Edwards, aelod craidd a chanwr Datblygu, a fu farw ym mis Mehefin eleni, yn gwybod am y peth. 

“Roedd y syniad [o greu’r grŵp Facebook] wedi bod yn mynd rownd a rownd yn fy mhen ers cyn i mi ddechrau dysgu Cymraeg” meddai Gisella. 

“Y syniad oedd i geisio cysylltu gyda ffans Datblygu yng Nghymru fyddai’n gallu fy helpu i ddarganfod gwybodaeth ac i ddeall geiriau eu caneuon.

“Roedd hyd yn oed Dave yn gwybod, ac yn hoffi’r syniad, er bod ganddo ambell beth i’w ddweud amdano, fel y byddech chi’n disgwyl!

“Ond ro’n i wastad yn dal nôl i gael cynllun llawn, y platfform delfrydol, y penderfyniadau gorau ynglŷn â phob manylyn a sut i wneud yn siŵr y byddai’n gweithio’n grêt. Fe allai gymryd am byth, felly…hei ho, beth am jyst dechrau arni.

“Mae’n amherffaith iawn, ond mae’n rhywbeth y gallwn ni wella, newid, symud i rywle arall yn y dyfodol. Felly…co ni’n mynd!”

Stuart Estell ydy cyd-weinyddwr y grŵp Facebook. Fe ddecheuodd ef a Gisella drafod geiriau caneuon Datblygu ar Twitter ar ôl iddo drydar llun o’r llyfr ‘Al, mae’n Urdd camp’, sef cyfrol farddoniaeth David R. Edwards. O hynny, dechreuodd y ddau drafod y syniad o greu grŵp neu dudalen Datblygu ac o hynny y tyfodd y grŵp newydd, ‘Datblygu Your Welsh’. 

Mae dros 60 o aelodau i’r grŵp newydd yn barod, a thipyn o drafod, rhannu lluniau a geiriau Datblygu ymysg yr aelodau.