Ffilm ddogfen ‘A Oes Pys?’

Mae’r grŵp gwallgof o’r Gogledd, Twmffat, wedi cyhoeddi ffilm ddogfen i gyd-fynd â rhyddhau eu halbwm newydd ‘Oes Pys’.

Rhyddhawyd yr albwm ar 26 Chwefror, ac mae’r ffilm ddogfen yn cynnwys casgliad o sgyrsiau a ffilmiau tu ôl i’r llen a wnaed yn ystod y broses recordio.

Phil Lee Bran o’r grŵp sydd wedi cyfarwyddo’r ffilm, ac mae modd gwylio ar sianel YouTube Twmffat, neu cliciwch y botwm ‘chwarae’ isod ynde!