Ffrancon yn rhyddhau EWROPA 2034

Mae’r cerddor electroneg arbrofol, Ffrancon, wedi rhyddhau EP newydd ar ei safle Bandcamp.

Un o brosiectau’r cerddor amryddawn Geraint Ffrancon, sydd hefyd yn gyfrifol am gerddoriaeth Machynlleth Sound Machine, ydy Ffrancon ac fe ryddhaodd gynnyrch diweddaraf y prosiect ar ffurf yr albwm 27 trac, ‘Ewropa’, ym Mai 2019.

Mae’r EP newydd ‘Ewropa 2034’ yn ddilyniant i’r record hir honno, ac mae’n edrych ymlaen at y flwyddyn 2034 pan fydd “nanobots yn rheoli’r byd a’r holl wledydd wedi eu dymchwel” yn ôl y cerddor. Fydden ni ddim yn disgwyl unrhyw beth llai gan y cerddor hynod yma!

Er nad ydy Ffrancon wedi cadarnhau hynny i’r Selar, mae’n debygol iawn nad cyd-ddigwyddiad oedd rhyddhau’r EP am hanner nos ar 31 Rhagfyr wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol!

Dyma drac agoriadaol yr EP newydd: