Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd o sengl ‘Aros i Fi Yna’ gan N’famady Kouyaté yn cael ei pherfformio’n fyw.
Rhyddhawyd y trac, sy’n dod o’r EP o’r un enw, ar 17 Medi ac mae’n cynnwys cyfraniad gan – Lisa Jên Brown o’r grŵp 9Bach.
Mae modd gwylio’r perfformiad arbennig gan N’famady ar lwyfannau digidol Lŵp, neu jyst cliciwch isod…