Fideo ‘Dyddiau Gwell i Ddod’

Mae Mei Gwynedd wedi cyhoeddi fideo newydd i gyd-fynd â’r sengl ddiweddaraf, ‘Dyddiau Gwell i Ddod’.

Rhyddhawyd y sengl yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 21 Mai,  ac mae’n anthem bositif sy’n dathlu’r newid hir ddisgwyliedig sy’n digwydd yn ein bywydau ar hyn o bryd.

Wrth ryddhau’r trac, mae’r cerddor profiadol hefyd wedi cyhoeddi fideo sydd wedi’i greu gan y gwneuthurwr ffilm amlwg, Dyl Goch.

Mae Dyl Goch efallai’n fwyaf adnabyddus i ni am ei waith ar y ffilmiau dogfen amgen ‘Separado’ ac ‘American Interior’ gyda Gruff Rhys.

Dyma’r sengl olaf o’r gyfres o dair cân oddi-ar LP newydd Mei Gwynedd fydd yn cael ei ryddhau eleni ar ei label, Recordiau JigCal.