Mae’r grŵp o’r canolbarth, Bwca, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer eu sengl ddiweddaraf.
Rhyddhawyd ‘Pwy Sy’n Byw’n Y Parrog’ ychydig wythnosau nôl ac mae’r gân yn ymateb i’r sefyllfa berchnogaeth dai ym mhentref Y Parrog, Sir Benfro, lle mae’r mwyafrif o dai bellach yn dai haf neu dai gwyliau.
Cyhoeddwyd y fideo ar Facebook Bwca ychydig ddyddiau cyn rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Y Parrog ar ddydd Sadwrn 23 Hydref.
Roedd Bwca’n perfformio’r gân yn y rali.