Fideo sesiwn ‘Byta Dy Bres’ gan Gwilym Bowen Rhys ar Lŵp

Mae cyfres gerddoriaeth Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd o’r cerddor gwerin, Gwilym Bowen Rhys yn perfformio’i drac ‘Byta Dy Bres’.

Fe ymddangosodd y trac ar drydydd albwm y cerddor amryddawn, Arenig, a ryddhawyd ar label Recordiau Erwydd yn 2019, ac mae’r fideo wedi’i ffilio ar leoliad ym Mhen-Bont Rhydybeddau ger Aberystwyth.

Cân wreiddiol gan Gwilym ydy hon sy’n rant blin a tharanllyd sydd wedi’i hanelu at arweinwyr gwlad ynglŷn â’u diffyg pryder am les dynoliaeth a’r blaned.