Fideo Sesiwn Cyfnos Gwenno Morgan

 

Mae label Recordiau I KA CHING wedi cyhoeddi fideo sesiwn arbennig o Gwenno Morgan yn perfformio tair cân oddi ar ei EP cyntaf, ‘Cyfnos’.

Rhyddhawyd yr EP ym mis Ebrill, ac yn y sesiwn mae’n perfformio’r traciau ‘T’, ‘Lloergan’ a ‘Gorwel’.

Ffilmiwyd y sesiwn yn yr Edd Mitchell Venue, Leeds. Y cerddorion sy’n perfformio gyda Gwenno ydy Lara Wassenberg ar y fiola, Scott Caldwell-Nichols ar y gitâr fas a George Topham ar y drymiau.

Mae’r gwaith ffilmio gan Tom Desré-Crouch a Katie Jackson.

Dyma’r fid:

Llun: Gwenno Morgan (gan Kristina Banholzer)