Fideo Sesiwn ‘Haws i’w Ddweud’ gan Bwncath @ Lŵp

Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd o’r grŵp Bwncath ar eu llwyfannau digidol.

Mae’r sesiwn wedi’i ffilmio yn stiwdio Lŵp yng Nghaernarfon, ac mae’r fideo newydd yn eu dangos yn perfformio’r trac ‘Haws i’w Ddweud’.

Daw’r gân o ail albwm y band gafodd ei ryddhau yn 2020 ar label Rasal, Sain ac a gipiodd deitl ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar eleni.

Enillodd Bwncath ddwy wobr arall sef ‘Band Gorau’, a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am fideo ‘Dos yn Dy Flaen’.