Fideo uchafbwyntiau Gŵyl 2021 FOCUS Wales

Mae Gŵyl FOCUS Wales wedi cyhoeddi fideo ‘showcase’ arbennig yn crynhoi perfformiadau 10 o’r artistiaid oedd yn perfformio ar eu llwyfan Gŵyl 2021 wythnos diwethaf.

Roedd FOCUS Wales yn un o’r pedair gŵyl Gymreig oedd wedi dod ynghyd i lwyfannu Gŵyl 2021 ar lwyfannau digidol wythnos diwethaf – Gŵyl Gomedi Aberystwyth, Gŵyl y Llais a Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi oedd y lleill.

Roedd setiau llwyfan FOCUS Wales wedi’u ffilmio’n defnyddio technoleg ffilmio 360° arbennig oedd yn rhoi’r profiad o fod yn yr ystafell i’r gynulleidfa. Mae’r fideo’n cynnwys caneuon gan 9Bach, Adwaith, Bandicoot a Gruff Rhys ymysg eraill.

Dyma’r fideo: