Mae’r cynhyrchydd electronig FRMAND wedi cyd-weithio â’r triawd acapela Sorela ar gyfer recordio ei sengl ddiweddaraf.
Bydd enw sengl newydd y cywaith, ‘Heb Ferchetan’, yn gyfarwydd iawn fel cân werin draddodiadol enwog, ac mae’r fersiwn newydd wahanol iawn ohoni allan ar ddydd Gwener 26 Chwefror.
Daw’r artist cerddoriaeth house o Langrannog, ac yn y gorffennol, rydym wedi gweld FRMAND yn cyd-weithio gyda cherddorion amrywiol gan gynnwys Mabli a Lowri Evans.
Bwriad y cynhyrchydd a cherddor ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau a remixes ar draws sawl genre yn yr iaith. Er mwyn ei hwyluso i wneud hyn, mae hefyd wedi sefydlu label recordiau o’r enw Recordiau BICA.
Tair chwaer o ardal Aberystwyth, sef Lisa Angharad, Gwenno Elan a Mari Gwenllian ydy’r grŵp harmoni poblogaidd, Sorela. Maent yn aml yn cynnwys caneuon gwerin traddodiadol, fel ‘Hen Ferchetan’ yn eu setiau byw.
Mae’r fersiwn newydd o’r gân yn canolbwyntio ar elfennau’r drymiau, gan gynnwys rhythmau sy’n cael eu defnyddio wrth glocsio.
Yn ôl Recordiau BICA, trafododd FRMAND a Sorela y syniad o greu trac oedd yn gymysgedd gwych o gerddoriaeth gwerin Cymreig a cherddoriaeth house, ac yn y syml iawn, dyma’r canlyniad.