Georgia Ruth yn rhyddhau trac coll albwm

Er mwyn nodi blwyddyn ers iddi ryddhau eu halbwm diwethaf, ‘Mai’, mae Georgia Ruth wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau trac coll arbennig o sesiwn recordio’r albwm.

Bydd y trac allan yn swyddogol fel sengl ddydd Gwener yma, 26 Mawrth, a bydd 50% o holl elw’r gwerthiant yn cael ei roi i elusen Welsh Women’s Aid.

Rhyddhawyd yr albwm, Mai, ar Alban Elidir, sef diwrnod cyntaf y Gwanwyn, llynedd, toc ar ôl i’r cyfnod clo ddechrau yng Nghymru gan roi ergyd i’r cynlluniau hyrwyddo gwreiddiol, fel cymaint o gynnyrch arall a ryddhawyd tua’r un pryd.

Recordiwyd yr albwm yn Neuadd Joseph Parry yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2019, ond ni chyrhaeddodd y trac ‘Spring’ yr albwm terfynol, ac nid yw’r gân wedi cael ei chlywed yn gyhoeddus o’r blaen.

Perthnasol

Mae recordiad yn un o berfformiad cwbl fyw gyda Georgia ei hun, Angharad Davies ar y ffidil ac Alisa Mair Hughes ar y soddgrwth (cello).

Mae’n debyg bod Georgia wedi anghofio am y trac ar ôl gorffen yr albwm, ond wedi ail-wrando arno’n ddiwedd a sylwi pa mor berthnasol oedd y geiriau’n teimlo’n ystod y pandemig.

Hon oedd un o’r caneuon cyntaf i’w recordio ar gyfer yr albwm, ac yn ôl y gantores fe fwynhaodd ei hail-ddarganfod.

“Mae’r angen am olau, symudiad a gobaith, sydd yn cael ei hebrwng gan newid y tymor, yn teimlo hyd yn oed mwy amlwg a pherthnasol nawr” meddai Georgia.

“Mae yna naws syml a garw i’r recordiad, a phan wrandawon ni arno, cafon ni ein cludo yn ôl i’r ystafell hardd honno rai blynyddoedd yn ôl, gyda’r atseiniau naturiol anhygoel, y cerddorion a’r egni a gafodd ei roi mewn i greu’r albwm – pethau a fydd yn teimlo’n werthfawr iawn i mi am byth.

“Er bod y gân wedi ei recordio mewn byd arall, mae’n teimlo mor addas ar gyfer ein byd ni nawr, rhywsut.”

Mae’r gân wedi bod ar gael ar wefan Georgia ers dydd Sadwrn, 20 Mawrth, ond bydd allan yn yr holl fannau digidol arferol ddydd Gwener 26 Mawrth.

Dyma ‘Mai’ o raglen Curadur, Lŵp: