Geth Tomos yn cloi blwyddyn brysur gyda sengl Nadolig

Mae comeback y cerddor profiadol Geth Tomos yn 2021 yn parhau wrth iddo ryddhau sengl Nadolig newydd ar y cyd â Catrin Angharad a disgyblion a staff Canolfan Addysg y Bont yn Llangefni.

‘Hei Sion Corn’ ydy enw’r sengl Nadolig newydd sydd allan ar label Recordiau Gonk ers 1 Rhagfyr. 

Mae Geth Tomos yn fwyaf adnabyddus fel aelod o’r band roc Gwacamoli, oedd yn ddigon llwyddiannus ar droad y mileniwm. 

Er ei fod wedi parhau i berfformio dros y blynyddoedd ers hynny, mae 2021 wedi bod yn flwyddyn arwyddocaol i’r cerddor talentog wrth iddo ryddhau cyfres o senglau. Mae hyn wedi cynnwys y trac ‘Darn Ohonaf i’ ar y cyd gyda Neil Williams o’r grŵp Maffia Mr Huws, ynghyd â’r sengl ‘Hedfan i Ffwrdd’ gyda Lisa Pedrick

Mae hefyd wedi rhyddhau’r senglau ‘Achub y Byd (efo roc a rôl)’, ‘Byw mewn Harmoni’, ac yn fwyaf diweddar ‘Haws Deud Na Gwneud’ yn mis Hydref

Cân ’dolig i’w chanu am flynyddoedd i ddod

Y tro yma mae Geth yn perfformio’r gân Nadoligaidd gyda Catrin Angharad (neu Catrin Toffoc), disgyblion a staff Canolfan Addysg y Bont. Mae’r geiriau wedi eu cyd ysgrifennu gyda Lowri Carlisle.

“Roedd perfformio gyda Catrin yn anrhydedd ac mi oedd yn ddewis naturiol ar gyfer y gân yma” meddai Geth Tomos.

“Dwi meddwl bydd hi’n gân fydd yn cael ei chanu bob ‘dolig am flynyddoedd i ddod.”

 Yn ogystal â Catrin, mae staff a plant Canolfan Addysg y Bont yn perfformio ar y trac ac mae ganddynt le arbennig yng nghalon Geth gan ei fod wedi gweithio yn agos gyda’r disgyblion ers blynyddoedd.

Mae’r gân ‘Hei Sion Corn’, yn gân ysgafn a hwyliog yn adrodd hanes Sion Corn yn rhannu anrhegion noswyl Nadolig ar draws Cymru a thu hwnt. Yn y gytgan mae’r plant a’r staff yn gofyn i’r “hen Sionyn” i beidio anghofio amdanynt. 

Mae neges o ddifri’ yma hefyd sydd yn ein annog i rannu ewyllys da o fewn ein cymdeithas dros gyfnod yr Ŵyl a chofio am wir ystyr y Nadolig.

Gyda drymio Deian Elfryn a lics gitar Wyn Pearson, mae hon yn gân i godi calon a dathlu’r Nadolig.