Gig i gloi Gŵyl Goncrit

Mae Canolfan Pontio ym Mangor wedi cyhoeddi manylion gig arbennig i gloi eu gŵyl gelfyddydol ‘Gŵyl Goncrit’.

Gŵyl i groesawu cwsmeriaid a chynulleidfaoedd yn ôl i’r ganolfan gelfyddydol ym Mangor ydy Gŵyl Goncrit.

Mae’r ŵyl eisoes wedi dechrau ers 30 Gorffennaf ac yn parhau nes 22 Awst. Mae llu o weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal yn yr awyr agored ar dir y ganolfan fel rhan o’r ŵyl.

Agorwyd yr ŵyl gyda gig yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Plu ac Eve Goodman ar 30 Gorffennaf.

Gig arall fydd yn cloi’r gweithgarwch ar 22 Awst hefyd, ac mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi’r lein-yp sy’n cynnwys Band Pres Llareggub, Pys Melyn a Lily Beau. Gig prynhawn fydd hwn gyda cherddoriaeth fyw rhwng 14:00 a 18:00.

Does dim cyfyngiad oedran ar bobl sydd am ddod i’r gig, ond bydd gofyn i unrhyw un dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Mae modd archebu byrddau o 6 ar gyfer y digwydd ac mae modd gwneud hynny trwy ebostio  info@pontio.co.uk  neu ffonio 01248 38 28 28 rhwng 11:00 a 14:00 ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener.