Gig Noson Ogwen i ddathlu talent lleol

Mae’r cerddor Dafydd Hedd wedi cyhoeddi manylion gig arbennig mae’n trefnu ym Methesda ar 4 Medi, sef ‘Noson Ogwen’.

Nod Noson Ogwen ydy cyflwyno noson o dalent lleol a chynnig cyfle prin i artistiaid berfformio ar ôl cyfnod hir heb gigs.

Mae Dafydd wedi’i partneriaethu gyda phrosiect Bro360 (sy’n cael ei redeg gan gwmni Golwg) a’u menter Gŵyl Bro i lwyfannu’r digwyddiad a dywed bod digonedd o artistiaid amrywiol o ran naws ac arddull yn perfformio.

Clwb Rygbi Bethesda fydd lleoliad y gig sy’n dechrau am 7pm – lleoliad eang gydag acwstics da ar gyfer gig o’r fath yn ôl y trefnydd.

Er yr amrywiaeth gerddorol, mae un peth yn gyffredin rhwng yr holl artistiaid sef eu bod oll yn dod o ardal y llechi.

Pwy ydy’r artistiaid sy’n perfformio felly dwi’n clywed chi’n holi…wel dyma gyflwyniad byr i bob un:

Yazzy – cantores enaid / pop o Dregarth  sy’n dwyn dylanwad gan artistiaid R & B a pop fel SZA ac Ariana Grande. Mae wedi rhyddhau EP o’r enw ‘Happy Pills’ gydag esthetig unigryw a meddylgar sy’n ategu’r casgliad cyfan, ac mae’r traciau wedi’u chwarae’n rheolaidd gan Adam Walton ar BBC Radio Wales.

Adam Boggs: Artist o Fethesda yn ffefryn gyda phobl ifanc y dref. Cyn y cyfnod clo, fe gigiodd gyda Celt a Maffia Mr Huws, a chwarae’r tafarndai lleol. Er nad yw’n ysgrifennu ei ganeuon gwreiddiol ei hun, mae’n gitarydd a pherfformiwr medrus a charismatig ac mae’n bleser gwylio ac ymlacio.

Dafydd Hedd:  Mae Dafydd Hedd yn ganwr-gyfansoddwr indie o Gerlan ym Methesda. Mae’n 18 oed ac mae wedi rhyddhau dau albwm ac EP eisoes. Mae wedi newid genre ac arddull lawer gwaith dros ei yrfa hyd yn hyn ac mae bellach yn tueddu i ysgrifennu caneuon am y pethau bach mewn bywyd sy’n creu’r darlun llawn.

Orinj: Band lleol o Fethesda yw Orinj sydd newydd ryddhau eu halbwm ‘How Do You See The World?’ Mae eu cerddoriaeth yn nodweddiadol gyda riffs bachog, a sain ddifater, ymlaciol bron Curt Cobainaidd yn eu lleisiau. Mae eu rhythmau yn teimlo’n ddigymell ac yn egnïol. Maen nhw wedi eu ffurfio o’r triawd Ifan Rhys, Tomos Walker a Liam Trohear-Evans

CAI: Mae Cai yn artist unigol dreampop o Benygroes a enillodd y gystadleuaeth remix ym Mrwydr Bandiau Maes B, ac a ddaeth yn gydradd drydydd yn y brif gystadleuaeth hefyd. Mae’n chwarae’r gig yma gyda band llawn. Mae Cai wedi cael ei ganmol lawer gwaith gan Huw Stephens a llawer o gyflwynwyr eraill Radio Cymru.

Mae Dafydd yn galw ar bobl i gefnogi’r artistiaid lleol sy’n perfformio a dyfodol cerddoriaeth fyw yn yr ardal. Dim ond £5 ydy pris mynediad, cwta £1 yr artist.