Bydd y cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, yn cynnal gig ar-lein fel lansiad ar gyfer ei EP newydd.
Cyhoeddodd Dafydd yn ddiweddar ei fod am ryddhau’r record fer newydd dan yr enw ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’ ar 4 Mehefin.
Ei fwriad gwreiddiol oedd cynnal gig yn y cnawd er mwyn lansio’r EP, ond dywed fod ei ymdrechion i drefnu hyn wedi profi’n ofer.
Yn hytrach na hynny mae wedi penderfynu cynnal gig rhithiol ar Facebook ac Instagram, ond gig llai acwstig na’i berfformiadau ar-lein eraill, er mwyn ceisio ail greu sŵn roc llawn y casgliad newydd.
Bydd yr EP newydd yn cael ei ryddhau ar ffurf CD am £6.99, ac mae y rhain ar gael i’w rhag archebu nawr trwy gysylltu ar gyfryngau cymdeithasol Dafydd.