Gigs i atgyfodi digwyddiadau byw

Bydd dau gig sy’n cynnwys bandiau Cymraeg o stabal Recordiau Libertino yn cael eu cynnal dros y bythefnos nesaf fel rhan o ymgyrch i atgyfodi’r sin gerddoriaeth fyw yn Nghymru ar ôl y pandemig.

Mae Recordiau Libertino wedi partneriaethu gyda’r Music Venue Trust a’r Loteri Cenedlaethol er mwyn cynnal un gig #ReviveLive yng Nghaerdydd, a’r llall yng Nghaerfyrddin.

Mae’r gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 17 Medi yn cynnwys SYBS yn headlinio, gyda chefnogaeth gan Clwb Fuzz a Blue Amber.

Yna bydd gig yr wythnos ganlynol, ar 24 Medi, yn CWRW (Y Parrot gynt) gyda Bandicoot, Papur Wal, Adwaith a Clwb Fuzz.