Glain Rhys yn troi at draddodiad o Sweden

Mae Glain Rhys wedi rhyddhau ei hail sengl ers ymuno â label I KA CHING.

‘Swedish Tradition’ ydy enw’r trac newydd sy’n ddilyniant i’w sengl ddiwethaf, ‘Plu’r Gweunydd’ a ryddhawyd ddechrau mis Chwefror.

Mae’r senglau newydd yn adfywiad o fath wedi i Glain brofi dwy flynedd o fethu’n lân ag ysgrifennu yn dilyn rhyddhau ei halbwm cyntaf, Atgof Prin, yn 2018.

Nawr mae’r cerddor yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd, ynghyd ag addewid o albwm erbyn yr haf.

Roedd y sengl ddiwethaf, ‘Plu’r Gweunydd’, yn dangos blas o sŵn a chyfeiriad mwy electronig gan Glain.

Mae ‘Swedish Tradition’ yn gân bop iasol sy’n trafod hen draddodiad Gŵyl Ifan Ganol Haf o Sweden. Byddai merched ifanc yn rhoi saith blodyn gwyllt o dan eu gobennydd yn y gobaith y bydden nhw’n breuddwydio am eu gwir gariad.

“Yn y gân, dwi’n canu am rywun sydd yn gwrthod cysgu oherwydd ei bod hi’n gwrthod cydnabod ei bod hi mewn cariad” meddai Glain am y sengl newydd.

“Dwi wrth fy modd gyda blodau-nad-fi’n-angof a’r llinell gyntaf ddaeth i mi oedd “Forget me nots, ironically don’t make me think of you”. Mae hon yn dilyn trywydd ychydig yn wahanol eto, a dwi’n hynod gyffrous i’w rhyddhau hi!”

Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad y gân ac Osian sy’n chwarae’r holl offerynnau ychwanegol.

Mae ei dylanwadau cerddorol  yn cynnwys Billie Eilish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.